Cyfieithu ar-lein

I’r rheini ohonoch chi sy’n amau cywirdeb ac ansawdd gwefannau cyfieithu ar lein, dyma enghraifft o ddarn geisiodd cydweithiwr i fi ei gyfieithu ar lein (nid gyda Google Translate).

Gobeithio y gwnaiff hyn dawelu eich meddyliau!
Dyma’r testun gwreiddiol:
‘Dyn ni’n bwriadu trefnu dau weithdy yn ystod Sadwrn Siarad Maesteg – un fydd yn gwneud bathodynnau a’r llall yn sgwrs am hanes lleol. Byddwn ni’n cynnig y ddau weithdy rhwng 11.30 – 1 i ddysgwyr safon Canolradd ac Uwch. Os na fydd y dysgwyr eisiau mynychu’r naill neu’r llall byddan nhw’n gallu parhau yn eu dosbarthiadau.’

A dyma’r cyfieithiad a gafwyd:

‘Tight ni’n purpose arrange two workhouse during Saturn Speak ed to adjoin one he will be doing medals a’r other crookedly talk about I proceeded local. We will be ni’n offer both workhouse between I learners we stood Intermediate and Above. If I do he will be the learners want mynychu’r the one neu’r other they will be nhw’n be able last crookedly them classes.’

Gadael sylw